Hamdden

 Yn-ol  

Anrhydeddau

Pencampwyr y Gyngrhair - 1933, 1935, 1951, 1958, 1963, 1965, 1974

 Enillwyr y Darian  - 1957, 1964, 1973

Ychydig o hanes y Clwb

Derbyniwyd Henllan i Gyngrhair Peldroed yr Haf, Clybiau Ardal Llandyrnog, yn y Cyfarfod Blynyddol a gynhalwyd yn 1932. Roedd  y Clwb eisioes wedi ei ffurfio dair blynedd yng nghynt, ond am nifer o resymau, nid oeddynt yn gallu ymuno hyd tymor 1933.

 Enillodd y clwb y gyngrhair yn eu tymor cyntaf gan ennill 7, a 7 gêm gyfartal gan sgorio 29 ac ildio16. Gorffenwyd y tymor gyda 21pwynt.

 Anghyson oedd eu hanes yn1934 gan orffen yng nghanol y tabl; er hynny roeddent yn ôl ar y brig yn1935, yn ennill10 allan o’r 14 gêm, ac yn y broses, yn sgorio 4 gôl. Roedd gweddill y ddegawd yn aflwyddiannus i Henllan wrth iddynt orffen yn hanner isaf y tabl bob tro hyd at gychwyn yr Ail Ryfel Byd yn 1939. Ni chynhaliwyd y gyngrhair rhwng 1940 a 1945. Daeth haf 1946 â hyder a chryn obaith wedi chwe mlynedd o ryfel, ond truenus fu hanes y clwb wrth iddynt orffen ar waelod y tabl, ac yn wir ni lwyddodd Henllan i efelychu y llwyddiant cynnar yn y tridegau hyd at ddiwedd y pedwardegau.

 Roedd y 50au yn gyfnod llwyddiannus iawn i’r Clwb, gan iddynt orffen o fewn y tri uchaf ar saith achlysur, gan ennill y teitl ddwy waith. Llwyddwyd hefyd i ennill y Darian yn 1957 a cholli yn y rownd derfynnol yn1955 a 1959. Yn ystod y blynyddoedd yma, ymddangosodd Roy Allen mewn crys Henllan am y tro cyntaf. Fe aeth Allen ymlaen i chwarae i dri clwb yn Gyngrhair Beldroed, sef Blackburn Rovers, Wolverhampton Wanderers a Coventry City, cyn rhoi gorau i’r gêm broffesiynol a mynd yn athro. Chwaraewyr eraill o’r cyfnod oedd Medwyn Jones, Jonnie Mallon a dau o chwarewyr gorau erioed Henllan, sef John Gwyn Roberts a John Lloyd Jones.

 Llwyddiant a gafodd Henllan yn y 60au, dim ond dwywaith yn ystod y ddegawd y buont tu allan i’r pedwar uchaf ( 5ed yn 1969 a 7fed yn1968 ). Enillwyd y Gyngrhair yn 1963 a 1965, ac yn 1964 enillwyd y Darian. Aflwyddiannus o ran ennill tlysau fu blynyddoedd olaf y ddegawd ond ar eu dydd roeddynt yn gallu rhoi gêm dda i unrhyw un.

 Arweinwyd y Clwb gan Gwilym Roberts, gwas ffyddlon, ar ac oddi ar y cae a cafodd gymorth gan y brodyr Tudor, Elwyn a Gwilym yn ogystal â Doug Vernon, Maldwyn Jones a Ricky Denman.

Roedd y 70au cynnar yn adeg llwyddiannus arall yn hanes y Clwb, gan ennill y Darian yn 1973 a’r gynrhair yn 1974, ac onibai am dimau da  Llandyrnog yn y 70au a 80au,  byddai llawer mwy o lwyddiant wedi dod i ran Henllan yn ystod canol a diwedd y ddegawd. Yn ystod y cyfnod hwn bu nifer o chwaraewyr gwych yn chwarae i’r clwb, megis Tim O’Shea, John Roberts, Nigel Williams, Ian Stubbs, Gwyn Roberts a llawer arall; a byddai llawer tlws arall wedi ei ennill ond am Llandyrnog.

 Roedd dechrau cryf i’r 80au a gorffenodd y Clwb yn 3ydd yn y Gyngrhair yn 1982 a chyrraedd nifer o gemau cyn derfynol ygn nghystadleuaeth y Darian. Ond fel yr aiff y ddegawd yn ei blaen, nid oedd y canlyniadau cystal, yn bennaf oherwydd y trosiant uchel o chwaraewyr. Roedd y pentref yn tyfu’n gyflym, a llawer o bobl yn symud i mewn ac allan o’r pentref yn weddol sydyn. Roedd cyfnod chwaraewyr y 70au yn dirwyn i ben a dim ond Nigel Williams, John Roberts a Gwyn Roberts oedd yn dal i chwarae i’r Clwb. Er hynny fe roedd ambell ymddangosiad mewn gemau gyn derfynol ac ambell gêm derfynol 7 bob ochr, ac ychydig o lwyddiant yn y cystadleuthau ieuenctid.

 Yn 1992 symudodd y Clwb i gae Parc Top, ac er nad yw’r cae’n ddelfrydol, roedd cyfle i ddenu cefnogwyr newydd ac i chwarae ar wyneb cae llawer gwell. Er fod y bobl traddodiadol yn cwyno am y symudiad cae, roedd synwyr cyffredin yn dweud mai hynny oedd y peth iawn i’w wneud. Wedi gorffen ar waelod y tabl yn 1991 mae’r Clwb wedi gweld gwelliant ar y cae, yn cynnwys chwarae mewn 6 gêm gyn derfynnol yn yr 11 tymor olaf, ac ennill dwy ohonynt ( 2000 a 2004 ) ac roedd gobaith fod cyfnod gwell ar ddod. Roedd y gêm derfynol yn 2000 yn siomedig gan golli   1-0  i Llanrhaeadr yn Llanrhaeadr  yn enwedig gan y teimlai y chwaraewyr eu bod wedi chwarae yn waeth na’r arfer. Siomedig oedd hanes y gêm derfynol yn 2004, pan lwyddodd tîm disgybledig Trefnant i rwystro a mygu doniau ymosodol Henllan a gorchfygu 2-1 , er i Henllan ymdrechu yn galed a phwyso yn ddidor yn hwyr yn y gêm, ni lwyddwyd i sgorio gôl gyfartal.

 Bu 2005 yn flwyddyn lle bu newid, gyda nifer o chwaraewyr di brofiad yn chwarae i’r clwb mewn nifer o gemau, ond roedd llwyddo i orffen yn barchus yn y 6ed  safle, yn wobr i’r rhai oedd wedi gweithio mor galed. Roedd colli yn y gêm rhagbrofol y darian yn siom fawr ar ddiwedd y tymor!

 Rhwng 2006 a 2008 ni lwyddodd y Clwb wneud argraff ar y gyngrhair na’r Darian, er eu bod yn fwy nac abl i greu sioc ar hyd y ffordd. Bu ymadawiad nifer o chwaraewyr o achos ymddeoliad, anafiadau neu yn gorfod symud i’r trefi i gael tai fforddadwy. Blwyddyn o obaith fu 2009 gyda’r clwb yn gorffen yn 4ydd ac yn edrych yn llawer cryfach ar y cae, ac oddi ar y cae, gyda nifer o chwaraewyr ifanc da a chae chwarae wedi ei ymestyn a stafelloedd newid hir ddisgwyliedig.

 

 

 

 

 

.